Gwasanaeth Ymgynghorol ar Enwau lleoedd
Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb statudol i gynghori ar ffurfiau safonol enwau lleoedd. Etifeddodd y cyfrifoldeb hwnnw gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Enwau Lleoedd.
Rydym yn cynnig cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru i unigolion a sefydliadau o bob math ym mhob cwr o’r wlad. Rydym yn cydweithio’n agos ag Awdurdodau Lleol, yr Arolwg Ordnans ac eraill er mwyn eu cynghori ynghylch ffurfiau safonol enwau lleoedd.
Rydym yn derbyn cyngor gan ein ymgynghorydd enwau lleoedd, sef yr arbenigwr yr Athro Hywel Wyn Owen a chan dîm o arbenigwyr sef Tîm Safoni Enwau Lleoedd y Bwrdd. Byddwn yn dilyn canllawiau pendant wrth ymgymryd â’r gwaith.
Gallwch ddarllen Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru drwy glicio yma.
I gael gwybod beth yw ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r cyfeiriad [email protected].
Rydym yn cyhoeddi’r ffurfiau y byddwn yn eu hargymell yng nghronfa Enwau Cymru (dolen ar y dde).