Gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg yw hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith Gymraeg. Rydym yn cynghori cyrff sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i’r cyhoedd yng Nghymru sut orau i ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae gan y Bwrdd bŵer statudol i ymchwilio i fethiant corff â darparu gwasanaethau Cymraeg
Mae’r canllaw hwn yn:
• egluro sut i wneud cwyn
• egluro pa gymorth sydd i’w gael gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg
• cynnig ffurflen syml i’w defnyddio wrth wneud cwyn.