Os ydych am wella eich sgiliau Cymraeg, mae dosbarthiadau ar gael ledled Cymru i bobl sydd am loywi eu Cymraeg neu sy’n deall Cymraeg ond nad ydynt yn ddigon hyderus i’w siarad.
Ewch i wefan Cymraeg i Oedolion i gael yr holl wybodaeth rydych ei hangen ar sut i fynd ati i wella eich sgiliau Cymraeg (dolen ar y dde).
Canolfannau Cymraeg i Oedolion lleol:
- Caerdydd a Bro Morgannwg 029 2087 4710
- Gwent 01495 333710
- Morgannwg (Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr) 01443 483600
- De-orllewin Cymru 01792 602070
- Canolbarth Cymru 0800 876 6975
- Gogledd Cymru 01248 383928
Os ydych chi eisoes yn siarad Cymraeg, pam na wnewch chi annog cyfaill neu aelod o'r teulu i fynd ati i ddysgu'r iaith, neu pam na wnewch chi ddysgu'r iaith i eraill fel tiwtor Cymraeg i Oedolion?