Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth
Darllenwch y dudalenDarllenwch y dudalen

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Dwi Eisiau Dysgu Cymraeg 

Cymraeg i Oedolion

Ydych chi am ddysgu Cymraeg neu wella'ch sgiliau Cymraeg? Mae'r holl wybodaeth ar gael i chi ar y Llinell Wybodaeth Cymraeg i Oedolion - 0871 230 0017.                  

Ar hyn o bryd, mae miloedd lawer o bobl wrthi'n dysgu Cymraeg. Felly beth am ymuno â nhw i sicrhau bod yr iaith yn mynd o nerth i nerth.

Mae cyrsiau ar gael ledled Cymru yn addas ar gyfer dysgwyr ar bob lefel. Efallai bod rhai ohonoch chi am ddysgu ar garlam er mwyn gallu cyrraedd rhuglder yn gyflym, efallai nad oes gan eraill ohonoch amser i fynychu dosbarthiadau rheolaidd, ond am ddysgu rhywfaint er mwyn gallu defnyddio'r iaith yn gymdeithasol. Beth bynnag yw'ch rheswm dros ddysgu, mae cyrsiau ar gael ar eich cyfer chi.

Cysylltwch â Llinell Wybodaeth Cymraeg i Oedolion ar 0871 230 0017 i gael gwybodaeth am gyrsiau yn eich ardal chi, neu fel arall, cysylltwch â'ch Canolfan Cymraeg i Oedolion lleol.

Os ydych chi eisoes yn siarad Cymraeg, pam na wnewch chi annog cyfaill neu aelod o'r teulu i fynd ati i ddysgu'r iaith, neu pam na wnewch chi ddysgu'r iaith i eraill fel tiwtor Cymraeg i Oedolion.Cysylltwch â'ch Canolfan Cymraeg i Oedolion lleol i gael gwybodaeth am swyddi gwag.

Mae gwefan benodol ar gyfer Cymraeg i Oedolion ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ewch i'r ddolen gyswllt ar ochr dde'r dudalen hon am ragor o wybodaeth.

 

 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd |

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.