Bwriad y canllaw yw roi cyngor ynglŷn ag ystyried y Gymraeg wrth weithio mewn partneriaeth, a hynny er mwyn sicrhau bod:
· gan y Gymraeg lais priodol yng ngwaith partneriaethau; a bod
· gwasanaethau i’r cyhoedd ar gael yn Gymraeg.
Argymhellwn fod y canllaw yn cael ei ystyried a’i ddefnyddio pan fo’n briodol gan y canlynol:
· Partneriaethau unigol
· Sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth
· Swyddogion neu unigolion sy’n mynychu partneriaethau
Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol i bob corff cyhoeddus sy’n gweithredu cynllun iaith Gymraeg neu unrhyw gorff arall sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliad o’r fath.
Gallwch lwytho i lawr y ddogfen gyngor llawn drwy glicio ar y ddolen isod.
Dogfen Partneriaethau