Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth
Darllenwch y dudalen

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cyngor i Fusnesau 

staff Tesco yn gwisgo logo Iaith GwaithMae’r Bwrdd yn helpu busnesau o bob maint, ar hyd a lled Cymru, i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg. Bu cynnydd amlwg iawn yn y defnydd o’r Gymraeg gan fusnesau dros y degawd diwethaf, yn arbennig ar y stryd fawr. Rydym yn helpu busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg trwy’r canlynol:

  • Helpu busnesau i gynllunio a rheoli defnydd o’r Gymraeg yn eu busnesau

Mae Templed Polisi Iaith Gymraeg yn gymorth i asesu defnydd o’r Gymraeg mewn busnes, ac i gynllunio a rheoli cynnydd dros amser.

Gallwch lawrlwytho Templed Polisi Iaith Gymraeg wrth glicio yma

 

  • Helpu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith

Os ydych angen cyfieithiad byr neu rywun i brawf ddarllen dogfen, mae'r Llinell Gyswllt i'r Gymraeg yn cynnig y wasanaeth yma am ddim. Rydym hefyd â chynllun Iaith Gwaith, sef bathodyn i gwsmeriaid adnabod bod staff yn gallu siarad Cymraeg.

Cliciwch yma i fynd i dudalen Llinell Gyswllt i'r Gymraeg

Cliciwch yma i fynd i dudalen Iaith Gwaith

 

  • Helpu busnesau i dynnu sylw at eu defnydd o’r Gymraeg

Mae cynllun Cefnogi’r Gymraeg yn adnabod busnesau sy’n croesawu defnyddio’r Gymraeg.  Mae Dewis Cymraeg yn adnabod gwasanaethau cwsmer sydd ar gael yn Gymraeg, a gweithio’n rhagweithiol i dynnu sylw at arfer da yn y wasg.

Cliciwch yma i fynd i dudalen Cefnogi'r Gymraeg

Cliciwch yma i fynd i dudalen Dewis Cymraeg

 

  • Cyhoeddi dogfennau cyngor sy’n rhoi arweiniad i fusnesau ac yn gosod safon ac arfer gorau ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg
    Rydym o hyd yn cyhoeddi dogfennau sy'n rhannu arfer da a chynnig dulliau safonol o ddefnyddio’r Gymraeg, fel bod busnesau a phobl yn medru gweithio yn yr un ffordd hwylus a chyson ar draws Cymru. 

    Os hoffech wybod rhagor am sut all eich busnes gynyddu ei ddefnydd o’r Gymraeg, porwch drwy'r dolenni ar y dde, neu cysylltwch â’r Tîm Busnes ar [email protected].                                       

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd |