Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth
Darllenwch y dudalen

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Swyddi 

Cyfleoedd gyda Bwrdd Yr Iaith Gymraeg

Ar y dudalen hon y ceir gwybodaeth am swyddi gwag cyfredol ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg. Rydym hefyd fel arfer yn hysbysebu swyddi yn y Western Mail, Daily Post, Y Cymro a Golwg, yn ogystal â phapurau lleol neu gylchgronau arbenigol pan fo angen.

Nid oes swyddi yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd.

Fe welwch ddolenni at swydd ddisgrifiadau ein swyddi gwag yn y blwch 'Cyhoeddiadau' ar ochr dde'r dudalen hon.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais ar gyfer unrhyw un o'r swyddi, cliciwch ar y ddolen berthnasol neu cysylltwch â'r Uned Adnoddau Dynol dros y ffôn: 029 2087 8000 neu drwy e-bost:

[email protected]

Os hoffech chi dderbyn manylion y swyddi neu'r ffurflen gais mewn fformat gwahanol, cysylltwch â'r Uned Adnoddau Dynol ar y rhif ffôn neu'r cyfeiriad e-bost uchod.

Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig ar gyfer y swyddi hyn. Dylid llenwi ffurflen gais ar gyfer pob swydd, er bod croeso i chi gynnwys llythyr esbonio a/neu eich CV fel atodiad i'r cais. Gweler dolenni at Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal y Bwrdd ar ochr dde'r sgrin.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi eu llenwi a’u harwyddo erbyn y dyddiad cau at:

Yr Uned Adnoddau Dynol
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Siambrau’r Farchnad
5 – 7 Heol Eglwys Fair
Caerdydd
CF10 1AT

Os ydych yn cael anhawster wrth lwytho dogfen i lawr, cysylltwch â ni ar y rhif uchod yn ystod oriau gwaith arferol (9yb tan 5yh o ddydd Llun hyd ddydd Gwener).

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd |